Advertisements

Diwanit Bugale (Welsh translation)

Welsh translationWelsh
A A

Blagurwch, Blant

Nesewch, blant
Ar fachlud haul a gyda’r wawr
Rhowch i mi galondid
Mae ofn ein dyfodol arna i
Cynnes yn eich calonnau mae
Doethineb gwerin y wlad
Ac mae’r cloddiau yn dihuno
Ar y meysydd o gwmpas y llyn du
Blagurwch, blant
 
O’ch ymdrechion nerthus, o’ch cytgord chi
Y ddaw llafar didro
Ac mae’n braf gen i weld eich ffordd
O floeddio’r iaith
Sydd yn ddiffyg i minnau, gwaetha’r modd
 
Blagurwch, blant llawen,
A’r mynyddoedd melyn
Gyda hiraeth eich gwyliau hen
A rhwng eich gwefusau, y gwir
Blagurwch, blant
 
Gwlyb yw eich llygaid wedi llawer chwerthin
A distaw eich galarau.
Blagurwch, blant
 
Blagurwch, blant
O’ch ymdrechion nerthus, o’ch cytundeb
Y ddaw llafar didro.
Ac mae’n braf gen i weld eich ffordd
O floeddio’r iaith
Sydd yn ddiffyg i minnau, gwaetha’r modd
 
Thanks!
Submitted by YmdeithyddYmdeithydd on Mon, 21/06/2021 - 12:12
Breton
Breton
Breton

Diwanit Bugale

Translations of "Diwanit Bugale"
Please help to translate "Diwanit Bugale"
Comments
Read about music throughout history