Russia is waging a disgraceful war on Ukraine. Stand With Ukraine!

Caerdydd lyrics

  • Artist: Lleuwen Steffan
  • Album: Gwn glân, beibl budr
  • Translations: English
Welsh
Welsh
A A

Caerdydd

Os wyt ti'n trïo dy orau i guddio o hyd, cofia di,
Dw i'n nabod pob stryd yn dy feddwl di.
Dw i'n nabod y ddinas, ei llwch a'i llanast,
Dw i'n nabod ei llwubrau cul
A gerddi tlws dy groen yn dy gwsg.
 
Tri chant a phedwar deg chwech o filoedd
O bobl sy'n byw yn ninas Caerdydd.
Does dim un o'r bobl yma i gyd yn gwybod y ffordd,
Y ffordd atat ti.
Tri chant a phedwar deg chwech mil.
 
Pan ddaru ni laru mi ddaru mi heglu hi'n bell,
Mor bell,
Ond roedd na draffig ar y lôn a thraffig ar fy ffôn.
Traffig yn fy mhen ac yn fy ngwythiennau
Yn gyrru fi'n nôl i Gaerdydd -
Gwyriad un ffordd i dy deyrnas di.
 
Tri chant a phedwar deg chwech o filoedd
O bobl sy'n byw yn ninas Caerdydd.
Does dim un o'r bobl yma i gyd yn gwybod y ffordd,
Y ffordd atat ti.
 
Tri chant a phedwar deg chwech o filoedd
O bobl sy'n byw yn ninas Caerdydd.
Does dim un o'r bobl yma i gyd yn gwybod y ffordd,
Y ffordd atat ti.
Tri chant a phedwar deg chwech mil.
 
Os wyt ti'n trïo dy orau i guddio o hyd, cofia di,
Dw i'n nabod pob stryd yn dy feddwl di.
 
Thanks!
Submitted by dovebugodovebugo on Fri, 24/06/2022 - 22:00

 

Translations of "Caerdydd"
Lleuwen Steffan: Top 3
Comments
Read about music throughout history