Please help to translate "Dy Gynnal Di"

Share
Font size
Original lyrics

Dy Gynnal Di

Does dim rhaid i chdi ddeud wrth y byd bo' chdi'n hapus pan ti ddim,
mae'r felan yn ffindio pawb bob hyn a hyn.
Fel y glaw yn taro'r to yn naturiol diwadd 'r ha',
di crio ddim yn bechod, mae o'n dda.
 
Gad i mi dy gynnal di, dy gynnal di.
Gad i mi dy gynnal di, dy gynnal di.
 
Pan dwi'n gweld y lleuad llawn dwi'n meddwl amdanach chdi
yn gweld y lleuad llawn a meddwl amdana' i.
A ti yn fy mhader i, ti dal ym mhob un gan,
dy lygad mawr yn dilyn fi bob man.
 
Gad i mi dy gynnal di, dy gynnal di.
Gad i mi dy gynnal di, dy gynnal di.
 
Fedrai'm gaddo dim byd ond mi dria i dy gynnal di
yn fy nghynnal i, yn dy gynnal di trwy rhyw drugaredd.
 
Gwrando ar 'y nghalon fach ond toedd honna'n deud dim,
ymlaen a fi am dro i Ben Llyn Gwyn.
Swni'n taeru glywish i ryw lais yn sŵn y gwynt
yn sibrwd dy enw di fel neshi'n gynt.
 
Gad i mi dy gynnal di, dy gynnal di.
Gad i mi dy gynnal di, dy gynnal di.
 
Fedrai'm gaddo dim byd ond mi dria i...
 
Translation
 
Login or register to post translation
Translations of "Dy Gynnal Di"
Comments