✕
Kontrol edilmesi talep edildi
Orijinal şarkı sözleri
1 kez çevrildi
Magi Thatcher sözleri
(Llais Margaret Thatcher) “I have only one thing to say…”
Dewch at y tân
Gwrandewch ar fy nghân
Ei ganaf i Magi Thatcher
Y ddynas o haearn
Frenhines y ddaear
Neb llai na Magi Thatcher
Fflachio mae’r mellt
Pan ddaw Magi Tô Gwellt
I osod y ddeddf i lawr
Mae ’di canu ar Gymru
Awn yn ôl at y llymru
Henffych, O Magi Thatcher!
(Llais Margaret Thatcher) “The lady’s not for turning…”
Mae pobol ddiniwed
Yn credu bod eu tynged
Yn nwylo rhagliniaeth a phallu
Ac i Madame Sera
Sy’n deud yn y bora
Mai’n y lleuad a’r sêr y mae’r gallu
Ond celwydd yw hynny
Yr un sy’n penderfynu
Yw Magi Y Ddynas Tô Gwellt
Mae ’di canu ar Gymru
Awn yn ôl at y llymru
Henffych, O Magi Thatcher!
Mae’r Rwsiaid yn gwelwi
Pan glywan nhw enwi
Enw’r hen Fagi Thatcher
A’r Ayatollah Khomeini
Mae yntau yn crynu
Pan welith lun Magi Thatcher
Mae’r Farchnad Gyffredin
Yn wan fel gwybedyn
Pan fydd Magi yn gweiddi o bell
Mae ’di canu ar Gymru
Awn yn ôl at y llymru
Henffych, O Magi Thatcher!
Mae’n rhyfel y graig
Canmolwn y Ddraig
’Sdim symud na throi ar Thatcher
Ond troi ’naeth y Ledi
Ar y sianel deledu
U-Turn gan Magi Thatcher
Mae Hen Wlad Fy Nhadau
Yn frith gan doriadau
Mae’r fenyw â’r fwyell yn dod
Mae ’di canu ar Gymru
Awn yn ôl at y llymru
Henffych, O Magi Thatcher!
Os nad oes job gan y gŵr
Yn ateb yn siŵr
Yw symud, medd Magi Thatcher
Dadwreiddio eich tent
A symud i Kent
Fel eich tadau, medd Magi Thatcher
Pan mae’r Cymry am sefyll
Heb symud eu pebyll
I herio’r hen Fagi a’i chriw
Dros iaith a thros waith, bois
Ymladdwn yn awr, bois
Cawn wared ar Magi Thatcher
Dros iaith a thros waith, bois
Ymladdwn yn awr, bois
Cawn wared ar Magi Thatcher
Cawn wared ar Magi Thatcher
Cawn wared ar Magi Thatcher!
(Llais Margaret Thatcher, yn windio lawr): “The lady’s not for turning…”
✕
Teşekkür Et! ❤ | ||
3 teşekkür aldı |
Teşekkür Detayları:
Kullancı Adı | 'kadar süre önce teşekkür etti |
---|---|
Webmaster PLUC | 10 ay 2 hafta |
Misafir | 1 yıl 5 ay |
Misafir 1 kez teşekkür etti
Ymdeithydd tarafından 2020-08-25 tarihinde eklendi.
Yorumlar
- Yorum yazmak için giriş yapın veya kayıt olun
Russia is waging a disgraceful war on Ukraine. Ukrayna'nın Yanında Olun!
Birleşik Krallık: En İyi 7
The Beatles Pop-Rock, Rock, Rock 'n' | |
Adele Pop, R&B/Soul | |
Queen Rock | |
Ed Sheeran Alternatif, Folk, Pop, | |
Coldplay Alternatif, Pop-Rock, | |
Arctic Monkeys Alternatif, Indie, | |
Tom Odell Pop, Şarkıcı - Söz yazarı |
Recorded when there were calls for Margaret Thatcher, Prime Minister of Britain, to make a "U-turn" from her monetarist policies. But the song partly celebrates the first U-turn she made, when she reversed her decision to refuse Wales its fourth television channel in the Welsh language following a hunger strike by the veteran politician Gwynfor Evans of Plaid Cymru. Many of the references are similarly topical.