✕
Translation
Un Dan Din
Pan o’t ti ’ma o’r blaen
Ffaelu disgwyl ym myw dy lygaid
Ti’n union fel angel
Dy groen yn neud i fi lefain
Pluen yn arnofio
Mewn byd hardd rwyt ti
Dymunwn fod yn arbennig
Ti’n arbennig, myn uffern
Ond dw i dan din, dw i’n un mor iasol
Pam yffach ydw i ’ma
Dw i ddim yn perthyn
Sdim ots am y loes
Dw i’n moyn cael rheolaeth
Dw i’n moyn cael corff perffaith
Dw i’n moyn enaid perffaith
Dw i am i ti sylwi
Pan bo fi ddim o gwmpas
Ti’n arbennig, myn uffern
Dymunwn fod yn arbennig
Ond dw i dan din, dw i’n un mor iasol
Pam yffach ydw i ’ma
Dw i ddim yn perthyn
Mae hi’n rhedeg trwy’r drws
Mae hi’n rhedeg
Rhedeg, rhedeg, rhe-
Deg
Ta beth sy’n neud di’n llon
Ta beth rwyt ti’n moyn
Ti’n arbennig, myn uffern
Dymunwn fod yn arbennig
Ond dw i dan din, dw i’n un mor iasol
Pam yffach ydw i ’ma
Dw i ddim yn perthyn
✕
Collections with "Creep"
1. | Songs with over 100 translations |
2. | Guardians of the Galaxy Vol. 3: Awesome Mix Vol. 3 (Original Motion Picture Soundtrack) |
3. | Most covered songs |
Radiohead: Top 3
1. | Creep |
2. | Karma Police |
3. | Street Spirit (Fade Out) |
Comments
Russia is waging a disgraceful war on Ukraine. Stand With Ukraine!
About translator
Role: Master
Contributions: 496 translations, 1 transliteration, 350 songs, 2 collections, 1251 thanks received, 388 translation requests fulfilled for 192 members, 279 transcription requests fulfilled, added 4 idioms, explained 5 idioms, left 657 comments
Languages: native English, fluent French, Welsh, advanced Russian
Bit tricky. I suspect most Welsh speakers would use the English word at least for 'weirdo'. I've gone for 'sneaky' for 'creep' and 'chilling' for 'weirdo'.