• Swnami

    Gwenwyn • Swnami

  • 2 translations
    English #1, #2
Favorites
Share
Font Size
Original lyrics

Gwenwyn lyrics

Cam wrth gam
Un wrth un mae'r darnau'n disgyn yn eu lle
Y darlun perffaith i lenwi'r gwagle
Cyn agor y drws i'r dorf
 
Paid gwneud y camgymeriad
Paid coelio am un eiliad
Y geiriau gwag ti'n cael dy fwydo
Mae'r awr yn dod
Bydd yn barod i frwydro
Paid colli gafael ar dy hun,
A paid â disgyn mewn i'r dyfroedd yn rhy gyflym
Mae'n rhaid 'ti adael fynd
Ond mae crafangau'r clwydda'n dal yn dynn
Tra bo'r gwenwyn dal i lifo drwy y gadwyn
 
Tro dy gefn ar y lleisiau sy'n dy lusgo yn dy ôl
Torra'r cyswllt sy'n eich uno
A dymchwel muriau'r wal
 
Paid gwneud y camgymeriad
Paid coelio am un eiliad
Y geiriau gwag ti'n cael dy fwydo
Mae'r awr yn dod
Bydd yn barod i frwydro
Paid colli gafael ar dy hun,
A paid â disgyn mewn i'r dyfroedd yn rhy gyflym
Mae'n rhaid 'ti adael fynd
Ond mae crafangau'r clwydda'n dal yn dynn
Tra bo'r gwenwyn dal i lifo drwy y gadwyn
 
Ti'n trio gadael fynd
Ond mae crafangau'r clwydda'n dal yn dynn
Tra bo'r gwenwyn dal i lifo drwy y gadwyn
Mae'n rhaid 'ti adael fynd
Ond mae crafangau'r clwydda'n dal yn dynn
Tra bo'r gwenwyn dal i lifo drwy y gadwyn
Jyst tro dy gefn, chwala'r cerdyn, disgyn nôl
 

 

Translations of "Gwenwyn"
English #1, #2
Swnami: Top 3
Comments