• Louis Armstrong

    Welsh translation

Share
Font Size
Welsh
Translation

Dos Draw Moses

Pan ydoedd Israel gynt yn gaeth
Gwna fy mhlant yn rhydd!
Yn wael eu ’stâd, heb fwyd yn faeth
Gwna fy mhlant yn rhydd!
 
Dos draw, Moses
O, dos i’r Aifft yn awr
Dwed wrth Pharoh
Gwna fy mhlant yn rhydd!
 
Hwn ydyw gair ein Harglwydd Dduw
Gwna fy mhlant yn rhydd!
Heb wneuthur hyn ni haeddwch fyw
Gwna fy mhlant yn rhydd!
 
Dos draw, Moses
O, dos i’r Aifft yn awr
Dwed wrth Pharoh
Gwna fy mhlant yn rhydd!
 
Gwna fy mhlant yn rhydd!
 
English
Original lyrics

Go down Moses

Click to see the original lyrics (English)

Comments