Rusia lleva a cabo una guerra vergonzosa contra Ucrania.     ¡Defiende a Ucrania!
Cómo apoyar a Ucrania 🇺🇦 ❤️
Compartir
Tamaño de fuente
Traducción
Intercambiar idiomas

Godsila

Ach, anghenfil ŷt ti!
 
Wi’n gallu llyncu poteled o alcohol ac yn twmlo fel Godsila
Wa’th i fi roi’r gore iddi fel gamblwyr sy’n cweryla
Ma ’yn sgwad i gyd ’ma, yn cered rownd y parti
Rhyw gro's rhwng apocalyps y sombis a B-Bobi Heenan “Y Menydd”, ma’n debyg taw
Dyna’r un reswm pam bo fi’n reslo da mania
Shady1 sy’n y cawl ma, ma da fi giwed wrth law
Ma cro’si fi’n gallu bod yn gamgymeriad costus, styriwch
Os ma’r racsans na’n cysgu’n ’y nghwmni i, gad iddyn nhw fod da anhunedd
ADHD2, Hydroxycut3
Pasia’r Courvoisier4(Ie, ie)
Yn yr Alcoholigion Dienw da AK5, codi crïe, trial trefnu ddi fel dêt whare
Ma’n bryd i faglu ddi’n ddie, encilio fel gwylie, galwade Mêdê (de)
Ma’r curiad ma’n ffiedd, Ray J, H.A. H.A., H.A.
Yn wherthin ’rholl ffor i’r banc, wi’n lluwcho fflamie
Ma nhw ffili dofi carlame’r
 
Anghenfil
Set ti’n dod yn 'y ffor i, na i dowlu di i’r anghenfil (ie)
Wi’n normal da’r dydd, ond da’r nos, troi’n anghenfil (ie)
Pan fydd y lleuad yn disgleirio fel Trycars Ffor yr Iâ
Fydda i’n edrych fel gwrtharwr o un o’r blocbystyrs na
Godsila, poerwr tân, anghenfil
Gwa'd ar lawr y ddawns, a carped Vuitton
Tân, Godsila, tân, anghenfil
Gwae'd ar lawr y ddawns, a carped Vuitton
 
Dim ond cynnyrch dw i o Slick Rick ac Onyx, wedes i tho nhw i lyfu ngheillie
Rhoid cro’n gŵydd ar ei breichie, chwanegu at eu beichie
Mewn cyment o ffyrdd o wyro’r ffeithie
Ac yng nghanol hyn oll
Wi yn y gwallgofdy da pelen grisial
Yn trial gweld os fory bydda i o hyd mor ishel
Risperidon6, rhyw sibrydion
Mae’n ddwrn i di wasgu nôl yn erbyn y wal, a’n bensil fel sbardun
Dyma’r union gân i fynd yn falistig arni
Ti newydd anelu pistol ar foi sy â lansiwr tafegre
Dim ond Llyn Loch Ness dw i, yr un chwedlonol
Ar frys i weud wrth ryw ast i sgriwo bant fel poteled o fodca
Pan bo ti’n datsgriwo’r topyn oddi ar y botel, dw i’n
 
Anghenfil
Set ti’n dod yn 'y ffor i, na i dowlu di i’r anghenfil (ie)
Wi’n normal da’r dydd, ond da’r nos, troi’n anghenfil (ie)
Pan fydd y lleuad yn disgleirio fel Trycars Ffor yr Iâ
Fydda i’n edrych fel gwrtharwr o un o’r blocbystyrs na
Godsila, poerwr tân, anghenfil
Gwa'd ar lawr y ddawns, a carped Vuitton
Tân, Godsila, tân, anghenfil
Gwa'd ar lawr y ddawns, a carped Vuitton
 
Os o’dd dim ots da chi rio’d (ie), coda dy law
Chos wi ar fin neud planie am daith bleser, am wylie
Wi ar fy anterth fel fy cynfeirfys 'fyd, so na gyd gewch chi oddi arna i
Y bys canol lan am archwiliad (Wiliad!) prostad (Tostaf!)
Shwd alla i chwysu pan fydd byth o gwmpas ryw ffan
Fel trôns celwyddwr, wi ar dân7
Wi’n dal y dyn dych chi’n edmygu, nace i ymddeol yw y plan
Ma’r crotese ma’n neud ystumie sbastigs, tra bo fi’n myn’ yn fwy secsi a glân
Wi’n hala nhw lesmeirio fel pasio mas taflenni'n bobman
A ti’n medi be ti’n hau yn union fel tro dannedd llif gadwyn
Chos dw i di derbyn y fflac, ond ma’n doleri i di pentyrru yn syth oddi ar y bat fel miwn gêm bêl-fas Sadwrn
Yr ast fach, fel Kid Ink ges i’r llwythi o arian na mor rhwydd ma nhw’n galw Diddy arna i
Wi’n cadw’r menyn ac arian y menyn chos o gaws ma’n gacen i (cacen caws, ie)
Llinyn trôns, chwaraewr dw i, a wi’n rhy gybyddlyd i rannu8
Na i ddim hyd yn o’d roid benthyg clust i ti, hyd yn o’d ffugio bo ots da fi
Ond os na i weud wrth ryw ast broda i ddi os naiff hi gladdu
Ei wyneb yn ’y nghedor i, y Richard Ramirez9 gwreiddiol
Cristhian Rivera10, chos fydd ’yn geirie i byth yn mynd i raddu
So ma’n nhw am anfon fi i’r gader i ladd fi
Fel un paraplegic, a ma’n rhoid ofn, harakiri11 galwa ddi
Chos all pob Twm Dic a Harri gludo geiriadur Merriam Webster12 i ga’l gradde
Yn tyngu llw bo nhw’n gallu rapio, ma’r ffycars yn haeddu ca’l eu sbaddu
Ma’n bryd i roid y geist ’na’n golofn y gofianne
Sen ni ddim yn gweld llygad i lygad da problem mor amlwg i fynd rhag-ddi
Ca’l y siafft fel colofn llywio (Anghenfil)
Yn orhoff o’r glicied, yn cwato arf, ond lliw du sy ar ei inc e
Hanner mall y Drwg yn Cwrdd
Â’r Fall, sef cymryd sedd gefen
Mynd â hi nôl i guriade tew da sengl estynedig sy’n hala i ti lefen
Shgwl ar record troseddol fi, yn llawn anhrefn sy’n denu’r bobol drachefn
I’n Gast Gangster i fel Apache da’r jingl cynefin
Wi’n pentyrru tships, does gen ti braidd Cheeto13 di hanner byta, myn uffern
Llanw nhw da gwenwyn a ca’l gwared arnyn nhw
Miwn geirie erill, hylifo nhw14
On i ddim moyn roid lo’s iddyn nhw, ond dyna be nes i, miwn pwl o gynddaredd
Llofruddio dw i to, fydd neb yn ca’l ei arbed
Wi’n bwriadu lladd nhw a dwmpo ffycin cyrff nhw dan y gored
Dan strwo popeth, lludwo bradwr agored
Wi ma i hala ofon da’r pin ar unrhyw un sy’n moyn ddi
Wel ’sneb yn moyn ddi, ond ma’n nhw’n mynd i ga’l ddi tapini
Chos dw i’n dechre meddwl fel un sâl ei feddwl
Attila dw i, ca’l lladd ne anela, gwenynen angheuol, y gorila fanila dw i
Ti’n galw’r llofrudd tu fiwn i fi mas ohona i
Sot ti moyn bod yn elyn i’r cythrel eiddig sy di treiddio fi
Na beiddio wynebu fi, dyna fydde ffolineb di
Ma pob mymryn ohona i run boerad â rapiwr15
Pan cyrrhaeddi di o flaen i, y ffycyr bach, wi’n haeddu i ti ostwng dy ben di
Os sot ti am fod yn farw y funud ti’n rhedeg ar ’y nhraws i
Cant y cant ohonot tithe yw pumed o un y cant sy’n eiddo i
Wi ar fin dy bennu di, y llinyn trôns, anniflanedig dw i
Ti moyn ca’l brwyd, wi ar ga'l, wedi ymchwyddo fel llong enchwythedig
Wi’n annadleuol, wi’n anochel, wi’n annihangol
Wi ar bowlen y toiled, ma da fi llond trelar o arian a wi’n ca’l ’yn dalu’n llawn
Sdim ofn i fwrw —
 
Achan, paid
Shgwl be wi’n plannu, haha
 
  • 1. Ffugenw Eminem ei hunan
  • 2. Anhwylder Diffyg Canolbwyntioa Gorfywiogrwydd
  • 3. Pils deiet
  • 4. Brandi Ffrengig, enw rap gan Busta Rhymes o 2002
  • 5. Gwn is-beiriant
  • 6. Cyffur ar gyfer sgitsoffrenia
  • 7. Rhigwm y llafargenir i rywun sydd yn dweud celwydd
  • 8. Mae e’n defnyddio enw’r cantores Sher yn lle’r gair ‘share’, one mae’r rheswm yn aneglur
  • 9. Llofrudd cyfresol Americanaidd o wragedd
  • 10. Llofrudd arall o fenyw ifanc
  • 11. Dull o hunanladdiad Siapaneaidd
  • 12. Cyfateb Americanaidd i’r Oxford English Dictionary
  • 13. Math o grisps
  • 14. troi mewn sudd ffrwyth fel hwn o’r brand Minute Maid
  • 15. Yn llythrennol, un sy’n “poeri” penillion
Letra original

Godzilla

Letras de canciones (Inglés)

Comentarios